MANYLION
  • Lleoliad: Ynys Môn,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: 13.05 - 13.68 GBP per Hour
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Wrth Gefn - Cymhorthydd Addysgu

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 13.05 - 13.68 GBP per Hour

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel ymarferwr proffesiynol cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg, gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol i cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais, disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Lynette Johnson

Rhif ff ô n: 01248 752562

Cyfeiriad e-bost: LynetteJohnson@ynysmon.llyw.cymru