MANYLION
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Salary Scale 4: £25,773 - £28,599 per annum
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Salary Scale 4: £25,773 - £28,599 per annum
Gweinyddwr Prosiect CyfleusterauLlawn Amser (37 awr yr wythnos) a Chyfnod Penodol am 1 Flwyddyn
Graddfa Gyflog 4: £25,773 - £28,599 y flwyddyn
Mae gennym gyfle newydd a chyffrous i Weinyddwr Prosiect Cyfleusterau ymuno â thîm gwych yng Ngholeg Penybont.
Diben y swydd: Cefnogi'r coleg i gyflwyno'r prosiect mewnol i adleoli i'r canol tref.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Profiad a dealltwriaeth o weithio mewn amgylchedd prysur
- Profiad o weithio ar draws disgyblaethau i gyflawni allbynnau prosiect diriaethol
- Sgiliau TG hynod hyfedr (gan gynnwys taenlenni), yn ddelfrydol gyda phrofiad G Suite
- Hanes profedig o reoli rhanddeiliaid lluosog yn effeithiol
- Gallu rheoli a gweithio i derfynau amser
- O leiaf 4 TGAU (Gradd A-C) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu gyfwerth
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.