MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth
Athro/Athrawes - Mathamateg (Ysgol Bro Hyddgen)Swydd-ddisgrifiad
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 21/05/2025
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
YSGOL BRO HYDDGEN
MACHYNLLETH
POWYS. SY20 8DR
ATHRO/ATHRAWES MATHAMATEG
I DDECHRAU MEDI 2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen yn awyddus i benodi athro/athrawes
Mathemateg ar y Campws Uwchradd o'r 1af o Fedi 2025. Chwiliwn am
athro/athrawes frwdfrydig gyda chymwysterau da i addysgu Mathemateg hyd at safon TGAU ac i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yr Adran. Bydd cyfle i gyfrannu at y cwrs Safon Uwch i ymgeisydd addas. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Ysgol naturiol ddwyieithog 4 -18 sy'n cynnig addysg o'r radd flaenaf yw Ysgol Bro Hyddgen. Ymfalchïwn ein bod yn gallu rhoi sylw teilwng i bob disgybl mewn dosbarthiadau bychain. Mae'r ysgol gyda dros wyth deg o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth gyda phlant yn dod o Feirionnnydd a Cheredigion i astudio safon uwch . Mae'r ysgol yn hyrwyddo gwerthoedd gorau ein cenedl ac yn mynnu safon uchel o ddisgyblaeth ac ymddygiad.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth.
Oherwydd natur y swydd sydd ynghwlm â'r swydd rydych yn ymgeisio amdani, mae'r swydd hon yn amodol ar ofynion y Gorchymyn (Eithriadau) Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a'r Gorchymyn Diwygio (Eithriadau). Mae hyn yn golygu nad oes gennych yr hawl i atal gwybodaeth am euogfarnu, rhybuddion neu orchmynion rhwymo a allai fod fel arall wedi'u "disbyddu".