MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol gynradd ddwy ffrwd ar gyfer plant 4-11 oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod eraill yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg. Er ein bod yn ysgol ddwy ffrwd, rydym yn un ysgol ac yn falch bod bob plentyn yn cael eu hannog i uniaethu fel dinasyddion Cymru a'r byd ehangach. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym wyth ystafell ddosbarth, pedair ym mhob ffrwd, ac rydym yn cynnal Dosbarth Cymorth Dysgu Ardal ar ran yr Awdurdod
Lleol. Mae gennym hefyd ddosbarth meithrin cyfrwng Cymraeg, Cylch yn yr Ysgol, a grŵp rhieni a phlant bach dwyieithog Ti a Fi. Mae Clwb Ar Ôl Ysgol a chlwb gwyliau Busy Bees hefyd yn gweithredu o fewn yr ysgol.
Angen o 1 Medi 2025 neu yn gynharach os yn bosibl
Cynorthwy-ydd Addysgu (Arbennig Lefel 2)
Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2026
22 awr yr wythnos
5.5 awr y dydd, yn ddelfrydol dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener
Rydym yn chwilio am gynorthwyydd addysgu brwdfrydig, ymroddedig i gefnogi dysgwyr yn ein hysgol. Rhaid i ymgeiswyr fod â chymwysterau priodol a meddu ar y sgiliau a'r priodoleddau a ddymunir a ddisgrifir yn y disgrifiad swydd.