MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol gynradd ddwy ffrwd ar gyfer plant 4-11oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod eraill yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg. Er ein bod yn ysgol ddwy ffrwd, rydym yn un ysgol ac yn falch bod bob plentyn yn cael eu hannog i uniaethu fel dinasyddion Cymru a'r byd ehangach. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym wyth ystafell ddosbarth, pedair ym mhob ffrwd, ac rydym yn cynnal Dosbarth Cymorth Dysgu Ardal ar ran yr Awdurdod Lleol. Mae gennym hefyd ddosbarth meithrin cyfrwng Cymraeg, Cylch yn yr Ysgol,a
grŵp rhieni a phlant bach dwyieithog Ti a Fi. Mae Clwb Ar Ôl Ysgol a chlwb gwyliau Busy Bees hefyd yn gweithredu o fewn yr ysgol.
Angen o 1 Medi 2025 neu yn gynharach os yn bosibl
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3
Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2026
27.5 awr yr wythnos
5.5 awr y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener
Rydym yn chwilio am gynorthwyydd addysgu brwdfrydig, ymroddedig i gefnogi dysgwyr yn 7 i 11 oed yn ein hysgol. Rhaid i ymgeiswyr fod â chymwysterau priodol a meddu ar y sgiliau a'r nodweddion a ddymunir a ddisgrifir yn y proffil swydd.