MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

SWYDD ARWEINYDD DYSGU Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Ysgol Bro Caereinion)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

SWYDD ARWEINYDD DYSGU Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Ysgol Bro Caereinion)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 26/05/2025 9am
Dyddiad creu rhestr fer: 26/05/2025
Cyfweliadau: 30/05/2025


Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

SWYDD ARWEINYDD DYSGU - Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Yn eisiau ar gyfer Medi 1 af , 2025

TLR2 (C) parhaol

Nifer y disgyblion: ~ 491

Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Arweinydd Dysgu uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.

Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'.

I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024

Dyma gyfle unigryw i unigolyn, sydd eisiau datblygu a meithrin profiad eang o arweinyddiaeth mewn ysgol sydd yn trawsnewid. Bydd cyfle euraidd i lunio dyfodol yr ysgol wrth iddi gychwyn ar ei thaith ar hyd continwwm yr iaith Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i hyrwyddo rhagoriaeth ddwyieithog a chyfoethogi bywydau ein disgyblion a'n cymuned. Os ydych yn angerddol am addysg arloesol, wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd Cymraeg ffyniannus, ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr hyderus, dwyieithog, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae'r ysgol yn chwilio am unigolyn eithriadol o'r safon a'r gallu uchaf a fydd yn:

  • dod â brwdfrydedd, ymrwymiad, meddwl arloesol a phrofiad llwyddiannus i helpu i fwrw ymlaen â gweledigaeth ac uchelgeisiau Ysgol Bro Caereinion fel ysgol cyfrwng Cymraeg pob oed
  • gweithio gyda'r Uwch Dîm a'r staff i ddarparu arweinyddiaeth gref, effeithiol a strategol ar draws y Maes Dysgu a Phrofiad sy'n cyd-fynd â'i gweledigaeth uchelgeisiol yr ysgol, wrth iddi barhau ar daith o drawsnewid.
  • bod yn gyfathrebwr effeithiol, sy'n gallu arwain, ysgogi a chefnogi staff a dysgwyr fel ei gilydd i roi eu gorau ym mhopeth y maent yn ei wneud
  • arwain ar addysgu, dysgu a datblygu medrau o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad - yn ogystal â datblygu'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol - i ysbrydoli a hyrwyddo addysgu sy'n darparu profiadau dysgu eithriadol o'r ansawdd a'r safonau uchaf i'r disgyblion ar draws yr ysgol
  • arwain y Maes Dysgu a Phrofiad yn effeithiol gan ddatblygu ymdeimlad o waith tîm gref gan weithredu prosesau hunanwerthuso er mwyn gwella trylwyr ac effeithiol sydd bob amser yn ffocysu ar effaith ar addysgu ar gynnydd disgyblion.
  • annog a chefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol, gan greu amgylchedd sy'n ysbrydoli pob disgybl i gyflawni eu potensial llawn ym mhob agwedd ar eu dysgu a'u datblygiad ledled yr ysgol
  • meithrin a chynnal partneriaeth agos gan weithio gyda'r holl rhanddeiliaid a'r gymuned - gan gynnwys disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, ysgolion clwstwr, busnes a sefydliadau perthnasol eraill - er budd yr ysgol a'r disgyblion
  • dangos ymrwymiad i gyflawni gweledigaeth Gymraeg Ysgol Bro Caereinion

Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Arweinydd Dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg ble mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

I wneud cais am y rôl, ewch i www.powys.gov.uk neu e-bostiwch recruitment@powys.gov.uk

Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'n hysgol, er mwyn cael profiad uniongyrchol o'n cymuned wych a chroesawgar. Trwy hyn, cewch y cyfle i gwrdd â'n uwch dîm arweinyddiaeth ymroddedig, staff angerddol, a dysgwyr brwdfrydig. Byddai'n fraint cael dangos i chi beth sy'n gwneud ein hysgol yn le mor arbennig i ddysgu, addysgu ac arwain.

I drefnu ymweliad cysylltwch â Mrs Jan Jones, Rheolwr Swyddfa drwy e-bostio jonesj3832@brocaereinion.powys.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol ar 01938 810888

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS