MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Dyffryn Trannon)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Dyffryn Trannon)Swydd-ddisgrifiad
YSGOL DYFFRYN TRANNON, TREFEGLWYS
Trefeglwys, Caersws, Powys SY17 5PH
We: www.dyffryntrannon.powys.sch.uk
E-bost:office@dyffryntrannon.powys.sch.uk
CYNORTHWYYDD ADDYSGU (Lefel 2)
CYFRWNG CYMRAEG
Angen erbyn 1af o Fedi, 2025 - Cyfnod Penodol 01.09.25 - 31.08.26
Mae Ysgol Dyffryn Trannon, Trefeglwys yn ysgol ddwy ffrwd sy'n cynnig addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae Llywodraethwyr yr ysgol hon yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu i weithio o fewn y ffrwd Gymraeg am 27.5awr yr wythnos - dros pum diwrnod.
Rydym yn ceisio penodi unigolyn cymwysedig, gofalgar, dibynadwy a llawn cymhelliant a fydd yn gweithio ochr yn ochr â'n tîm presennol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• Ymarferydd rhagorol â disgwyliadau uchel o'r holl blant.
• Ddigyffro, yn gydnerth ac yn amyneddgar
• Gallu cynorthwyo i gyflenwi pob agwedd ar ddysgu ac addysgu.
• Cyfathrebwr effeithiol sy'n gallu gweithio'n gydweithredol â chydweithwyr.
• Barod i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol gyfan.
Mae croeso i ymgeiswyr drafod y swydd gyda'r Pennaeth, Mrs Caroline Harries drwy ffonio:
01686 430644, neu e-bostio: head@dyffryntrannon.powys.sch.uk
DYDDIAD CAU: 1af o Fehefin 2025
CYFWELIADAU: Wythnos yn dechrau - 9fed o Fehefin, 2025
Am ffurflen gais a rhagor o fanylion, ffoniwch 01597 826409; neu anfonwch e-bost at recruitment@powys.gov.uk neu gallwch wneud cais ar-lein yn www.powys.gov.uk.
Dychwelir y ffurflenni cais i'r awdurdod erbyn y dyddiad cau: Dydd Sul, 1af o Fehefin 2025.