MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,548
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Domestig - Cartref Gofal Caemaen

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £25,548

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1687

Sefydliad:

Cyngor Sir Caerfyrddin

Adran:

Caemaen

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Rhan-amser

Lleoliad:

Llanelli

Gradd:

Gradd A +8%

Cyflog:

£25,548

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£13.24

Oriau Contract:

13 awr

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae'r Gwasanaeth Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae'r tîm yn gyfrifol am gynnal safonau uchel o lendid a hylendid ar draws adeiladau'r Sir, gan gynnwys swyddfeydd, cartrefi preswyl a chyfleusterau masnachol i sicrhau y gall pobl fyw a gweithio mewn amgylcheddau glân a diogel.

Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol lygad craff am fanylion ac yn ymfalchïo mewn sicrhau bod pob ardal yn lân ac yn daclus. Mae dyletswyddau'n cynnwys dwsto, ysgubo, hwfro, mopio a gwagio biniau gwastraff yn ogystal ag ail-lenwi eitemau traul a glanhau'n drylwyr yn ôl yr angen. Byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio offer glanhau, peiriannau a chemegau, gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch.

Bydd hefyd angen i chi:
  • Bod ag agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
  • Bod ag hyblygrwydd a'r parodrwydd i gynorthwyo gyda gofynion glanhau eraill.

I gael trafodaeth anffurfiol am ein swydd wag cysylltwch â'r gwasanaeth glanhau drwy ffonio 07920286909

Disgrifiad Swydd:

010086.pdf - 145KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 26/05/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.