MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 1729
Sefydliad:
Ysgolion
Adran:
Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair
Nifer y swyddi gwag:
2
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Awst 2026
Lleoliad:
Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.72 - £30.04
Oriau Contract:
32.5 awr yr wythnos
Dewch i ymuno â'n tîm
Ydych chi eisiau trawsnewid bywydau plant? Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm arbennig sy'n caniatáu i ni i gyd fod y fersiwn orau ohonom ein hunain? Ydych chi eisiau dod i'r gwaith bob dydd, ysbrydoli, rhoi o'ch gorau, a chael eich gwerthfawrogi? Os felly, efallai mai Ysgol y Santes Fair yw'r ysgol i chi.
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn awyddus i benodi athro dosbarth ysbrydoledig, llawn cymhelliant, ymroddedig a hynod effeithiol i ymuno â'n tîm ymroddedig.
Rhaid i'r ymgeisydd allu dangos profiad o Addysg Gynradd (Dysgu Sylfaen a Chamau Cynnydd 2 a 3), FfCD a gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Dylai fod gan yr ymgeisydd ddisgwyliadau uchel o ymddygiad a chyflawniadau plant a bod yn ymroddedig i les a magwraeth y disgyblion hynny. Gallu dangos ymrwymiad i'r ethos Catholig a bod yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach ein hysgol.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau addysgu a dysgu rhagorol, yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol da a bydd yn gweithio i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer yr ysgol fel rhan o'r tîm i gynnal safonau uchel yr ysgol.
I gysylltu a'r ysgol, plis ffoniwch 01554 759178 neu ebostiwch admin@stmarysllanelli.ysgolccc.cymru
Disgrifiad Swydd:
Job Profile Teacher St Mary's Llanelli 2024.pdf - 160KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
12 Mehefin 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 28/05/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.