MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 5 - £25,584 - £26,835 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu / Goruchwyliwr Llanw – Lefel 3 – Ysgol Gyfun Aberdaugleddau

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 5 - £25,584 - £26,835 pro rata

Gradd 5 - £25,584 am 29 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £17,614.05 pro rata, gan godi i 46.8 wythnos y flwyddyn, £18,878.73 pro rata, ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

Mae'r corff llywodraethu yn dymuno penodi Goruchwyliwr Llanw i ymuno â thîm cadarnhaol ac effeithiol. Prif rôl y swydd hon fydd goruchwylio dosbarthiadau ar gyfer athrawon absennol. Efallai y bydd gofyn i chi o bryd i'w gilydd drefnu'r gwaith dyddiol o lenwi ar gyfer staff sy'n absennol. Yr oriau gwaith gofynnol yw 29 awr yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mae'n bleser gennym rannu'r datganiadau cadarnhaol o'n harolygiad diweddar gan Estyn a ddywedodd: "Mae'r ysgol wedi mireinio a chryfhau ei darpariaeth llesiant ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad, agweddau at ddysgu a phresenoldeb. Mae hyn yn ei dro wedi atgyfnerthu disgwyliadau uchel yr ysgol o ran ymddygiad a phresenoldeb." Rydym am adeiladu ar yr adroddiad hwn ac yn chwilio am Oruchwyliwr Llanw cymwys gyda disgwyliadau uchel a fydd yn ein cefnogi i barhau â'n taith gwella. Rydym hefyd yn falch o'r ffaith bod "disgyblion yn datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am y pwnc yn dda yn y rhan fwyaf o wersi."

Rydym yn gweithio'n galed i helpu i feithrin disgyblion gofalgar, meddylgar a brwdfrydig sy'n falch ohonynt eu hunain a'r gymuned y maent yn byw ynddi. Rydym mor falch bod Estyn wedi cydnabod hyn yn ei adroddiad, gan wneud y sylw penodol: "r ymdeimlad o gymuned agos a chefnogol ac ethos tîm yn agweddau cryf ar fywyd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau." Mae hyn i gyd o ganlyniad i waith caled anhygoel ein disgyblion, ein staff a theulu ehangach yr ysgol.

Lleolir Aberdaugleddau ar arfordir prydferth Sir Benfro mewn ardal lle mae tai yn rhad ac ansawdd bywyd heb ei ail. Ar hyn o bryd mae dros 1,097 o ddisgyblion wedi'u cofrestru, a disgwylir i hyn gynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.