MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Nantgarw Campus,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £26,019 - £49,962.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26,019 - £49,962.00
Darlithydd BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol (Bioleg a Chemeg)Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel Darlithydd, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno addysg ddiddorol ac effeithiol mewn Bioleg a Chemeg ar gyfer cyrsiau BTEC Lefel 3 Gwyddoniaeth Gymhwysol. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd addysgu pynciau ychwanegol fel y cytunir gyda'ch rheolwr llinell. Byddwch yn cefnogi dysgwyr i gyflawni canlyniadau llwyddiannus ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cadw a recriwtio yn ôl yr angen. Byddech yn gosod disgwyliadau uchel i ddysgwyr ac yn cyfrannu at amgylchedd sy'n annog pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk