MANYLION
  • Lleoliad: Brackla Primary,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro (Dros Dro) FTE 0.4 - Ysgol Gynradd Bracla Mewnol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Athro (Dros Dro) FTE 0.4 - Ysgol Gynradd Bracla Mewnol
Disgrifiad swydd
13 awr yr wythnos

Dros dro hyd at 31 Awst 2026

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Bracla am benodi athro/athrawes ysgol gynradd uchel ei gymhelliant/uchel ei chymhelliant a chreadigol i weithio'n rhan-amser yng Ngham Cynnydd 3. Mae hwn yn gyfle gwych i addysgwr ymroddedig ac angerddol gael effaith gadarnhaol ar gymuned ein hysgol.

Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am arfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol ac sy'n gallu cael effaith y tu hwnt i'w ystafell ddosbarth. Mae angen i ymgeiswyr fod â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion yn academaidd ac o ran eu hymddygiad.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:

Angerddol am addysgu a dysgu a meddu ar ddisgwyliadau uchel;

Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gref o'r cwricwlwm cynradd;

Yn meddu ar y gallu i weithio ar y cyd â'u partner rhannu swydd ac fel rhan o dîm;

Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych;

Dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus;

Dangos creadigrwydd ac arloesedd wrth gynllunio a chyflwyno gwersi;

Cymryd rhan weithredol yng nghymuned yr ysgol a chefnogi ei hethos.

Rydym yn cynnig ysgol hapus, greadigol a chynhwysol lle rydym yn

gwerthfawrogi ein holl ddysgwyr a gweithio i sicrhau bod pob un yn cyrraedd ei botensial llawn.

Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.

Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 30 Mai 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 4 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person