MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brackla Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro - Ysgol Gynradd BraclaDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Ar gyfer mis Medi 2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Bracla yn dymuno penodi athro/athrawes gynradd llawn cymhelliant a chreadigol sydd â phrofiad o addysgu ar draws y cyfnod cynradd.
Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am arfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol ac sy'n gallu cael effaith y tu hwnt i'w ystafell ddosbarth. Mae angen i ymgeiswyr fod â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion yn academaidd ac o ran eu hymddygiad.
Rydym am benodi athro/athrawes ragorol i fod yn aelod gweithgar o'n tîm Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ac yn eich annog i amlinellu eich cryfderau yn eich cais. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol uchelgeisiol a galluog sy'n gallu cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad yr ysgol.
Rydym yn cynnig ysgol hapus, greadigol a chynhwysol lle rydym yn gwerthfawrogi ein holl ddysgwyr a gweithio i sicrhau bod pob un yn cyrraedd ei botensial llawn.
Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.
Cysylltwch â'r ysgol i gael rhagor o fanylion am y swydd.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 30 Mai 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 4 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person