MANYLION
  • Lleoliad: Nottage Primary,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £14,429 - £14,904 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd - Notais Ysgol Gynradd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £14,429 - £14,904 y flwyddyn

Cogydd - Notais Ysgol Gynradd
Disgrifiad swydd
22.5 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.

Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd Cogydd yn Ysgol Gynradd Notais yn rheoli ac yn cydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.

Byddant yn gyfrifol am ddarparu'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 04 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 05 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 16 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person