MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Bro Caereinion)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Bro Caereinion)
Swydd-ddisgrifiad
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

SWYDD Athro - Gwyddoniaeth

Yn eisiau ar gyfer Medi 1 af , 2025

parhaol

Nifer y disgyblion: ~ 491

Mae'r Corff Llywodraethol am benodi person uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol yn athro Gwyddoniaeth i ymuno â'r ysgol ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn Ysgol Bob Oedran cyfrwng Cymraeg flaenllaw yn Sir Drefaldwyn, Gogledd Powys. Mae'r ysgol hon yn nhref farchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hardd o'r Canolbarth, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn taith awr o Aberystwyth.

Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'.

I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024

Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Arweinydd Dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg ble mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'n hysgol, er mwyn cael profiad uniongyrchol o'n cymuned wych a chroesawgar. Trwy hyn, cewch y cyfle i gwrdd â'n uwch dîm arweinyddiaeth ymroddedig, staff angerddol, a dysgwyr brwdfrydig. Byddai'n fraint cael dangos i chi beth sy'n gwneud ein hysgol yn le mor arbennig i ddysgu, addysgu ac arwain.

I drefnu ymweliad cysylltwch â Mrs Jan Jones, Rheolwr Swyddfa drwy e-bostio jonesj3832@brocaereinion.powys.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol ar 01938 810888

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS