MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Cynddelw

Ffordd Newydd

Glyn Ceiriog

Ffôn: 01691 718426

Enw'r Pennaeth: Mrs Lora Sockett

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1

G03 £16,257 - £16,512 y flwyddyn

30 awr yr wythnos

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I ddechrau: wythnos sy'n dechrau ar 1 Medi 2025

Dros dro tan 31 Awst 2026

Dyma hysbyseb am Gymhorthydd Addysgu Lefel 1 yn Ysgol Cynddelw. Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon yn ein hysgol.

Mae Ysgol Cynddelw am benodi cynorthwyydd dosbarth i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn egnïol, yn gefnogol ac yn fodel rôl da. Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 1 i weithio o dan gyfarwyddyd uniongyrchol y staff addysgu/uwch staff, fel arfer yn y dosbarth gyda'r athrawon, i gefnogi mynediad disgyblion i ddysgu a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athrawon i reoli'r disgyblion a'r dosbarth.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod

Mailbox@cynddelw-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.