MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro (Cyfnod Allweddol 2)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc

Llai

Wrecsam Ll12 0TR

Ffon: 01978 859100

Pennaeth - Mrs Rebecca Billington

Athro (Cyfnod Allweddol 2)

Llawn amser, Dros dro am Ddau Dymor: Medi 2025 tan Ebrill 2026

Yn dilyn cais llwyddiannus am secondiad gan aelod o staff. Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd y Parc, Llai, yn awyddus i benodi athro hynod gymhellol a chreadigol ar gyfer ein hadran iau (dosbarth Blwyddyn 5), ar sail dros dro gan ddechrau ar 1 Medi 2025 am ddau dymor.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

• Athro rhagorol gyda phrofiad o addysgu ym Mlwyddyn 5
• meddwl yn flaengar ac yn awyddus i gefnogi'r ysgol ym mhob maes gwella
• Meddu ar sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a threfnu rhagorol
• Cofleidio ein gweledigaeth a'n gwerthoedd ysgol gyfan
• Chwaraewr tîm
• Meddu ar sgiliau gwych yn rheoli ystafell ddosbarth ac yn gallu ymgysylltu â dysgwyr mewn ffyrdd creadigol
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel ac yn gallu cynllunio gweithgareddau i herio pob dysgwr yn effeithiol

Rydym yn cynnig y canlynol i'r ymgeisydd llwyddiannus:

• Amgylchedd gwaith hapus a chefnogol
• Plant hyfryd, cwrtais a brwdfrydig
• Corff llywodraethu cefnogol a rhagweithiol
• Ymrwymiad i'ch datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein hysgol ewch i www.parkcpllay.co.uk
Drwy apwyntiad yn unig y gellir ymweld â'r ysgol, cysylltwch â 01978 859100 neu e-bostiwch parents@park-pri.wrexham.sch.uk
Mae ymweliadau ar gael ar 3 a 5 Mehefin am 3.30pm.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein hwn ar gael ar gyfer swyddigwag mewn ysgolion eto - llenwch y ffurflen gais PDF sydd wedi'i hatodi isod yn electronig os gwelwch yn dda. Os bydd angen i chi ei llenwi â llaw, argraffwch hi, ei chwblhau, a'i dychwelyd i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi i'r Pennaeth yn uniongyrchol drwy'r cyfeiriad e-bost isod.
Headteacher@park-pri.wrexham.sch.uk

DYDDIAD CAU: 12 canol dydd 13 Mehefin 2025
ARSYLWADAU A CHYFWELIADAU: 16 ac 18 Mehefin

HysbMae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.