MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru,
Ffordd Bangor
Eyton
LL13 0YD
Ffôn: 01978 823392
headteacher@eyton-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth Dros Dro: Mrs Hayley Hughes
Cymhorthydd Addysgu Lefel 2
G04 £9,644 - £9,797 y flwyddyn
Dros dro am 12 mis
17.25 awr yr wythnos, boreau yn unig
38 wythnos y flwyddyn
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Eyton am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i gweithio yn unol â chyfarwyddiadau'r staff dysgu / uwch i gwblhau rhaglenni gwaith / gofal / cefnogi i alluogi i ddisgyblion ddysgu ac i gynorthwyo'r athro wrth reoli disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gellir cwblhau'r gwaith yn yr ystafell ddosbarth, neu'r tu allan i'r brif ardal ddysgu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth Dros Dro ar y rhif uchod.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
headteacher@eyton-pri.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad Cau: 18/06/2025
Cyfweliadau: wythnos sy'n dechrau ar 16/06/2025