MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/ Athrawes

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair
Brymbo
Wrecsam
LL11 5DA
Ffôn: 01978 722970
Pennaeth: Mr A. Williams
Athrawon Dosbarth
MPA/UPS
I ddechrau o fis Medi 2025. Dros dro tan Pasg 2026
(Swydd Tymor yr Hydref a'r Pasg fel athro dosbarth)
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi athro/athrawes ymroddedig a brwdfrydig i weithio yn Santes Fair Brymbo a dod yn rhan o dîm deinamig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
â- Yn gweithio o fewn ein hethos Cristnogol i sicrhau bod lles disgyblion yn cael ei hybu a'i warchod drwy greu ystafell ddosbarth gynhwysol, gofalgar a chadarnhaol
â- Yn llawn cymhelliant ac arloesol gydag agwedd gadarnhaol
â- Profiad gyda disgyblion ADY a diwallu anghenion pob disgybl
â- Disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad disgyblion
â- Gwybodaeth ymarferol am y Cwricwlwm i Gymru newydd a'r egwyddorion sy'n ei danategu.
â- Dealltwriaeth glir o strategaethau dysgu effeithiol.
â- Gallu addysgu Cymraeg fel ail iaith a chyfrannu at ddatblygiad dwyieithrwydd yn yr ysgol
â- Gallu cyfrannu i, a gweithio gyda thîm prysur a medrus.
â- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a phrofiad o ddefnyddio Cynorthwywyr Addysgu
Croesewir ceisiadau gan athrawon profiadol ac athrawon newydd gymhwyso.
I gael rhagor o wybodaeth Cysylltwch â Mr. A. Williams yn Ysgol y Santes Fair (01978 722970).
Croesawir ymweliadau â'r Ysgol yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Mehefin 2025.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
WilliamsA1907@Hwbcymru.net
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 20 Mehefin 2025
Arsylwi Gwers/ Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 23 Mehefin 2025