MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Teitl y Swydd: ID 3125 Ymarferydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (CYC)
Cyflog: G07 £30,559 - £32,115
Math o Gontract: Yn ystod y tymor, Parhaol

Diben y Swydd

Rydym yn chwilio am Ymarferydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (CYC) caredig, medrus a rhagweithiol i ymuno â'n tîm ymroddedig sy'n gweithio gydag ysgolion cynradd Wrecsam.

Bydd yr Ymarferwyr CYC yn gweithio'n rhan o dîm CYC dan oruchwyliaeth yr arweinydd CYC i ddatblygu a chefnogi CYC ysgol gyfan CYC sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Bydd yr Ymarferydd CYC yn gyfrifol am hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a chefnogi myfyrwyr ag anghenion amrywiol, yn enwedig y rheini sy'n arddangos ymddygiadau heriol. Maent yn cymhwyso egwyddorion Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol (CYC) i greu amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol. Ar ôl ymateb graddedig, bydd yr ymarferydd yn gweithio'n agos gydag athrawon, myfyrwyr, rhieni, a staff eraill yr ysgol i ddatblygu cynlluniau ymddygiad cyffredinol, ysgol gyfan ac unigol sy'n gwella llwyddiant cymdeithasol, emosiynol ac academaidd. Yn ogystal, y nod yw trosglwyddo'r rheolaeth ar ymddygiad o gyfryngwyr allanol (rhieni a staff) i reolaethau a gynhyrchir yn fewnol.

Byddwch yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys Noddfa, cydlynwyr ADY, seicolegwyr addysg, gweithwyr cymdeithasol, ac asiantaethau allanol, i gefnogi myfyrwyr ag anghenion cymhleth. Cysylltu â staff a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu dulliau cyson o reoli ymddygiad. Darparuhyfforddiant mentora ac arweiniad i staff ysgol ar egwyddorion ac arferion Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol.

Prif Gyfrifoldebau:

Dilyn ymateb cynyddrannol i reoli ymddygiad.

Cynnal asesiadau ymddygiad swyddogaethol a datblygu cynlluniau CYC wedi'u personoli.

Hyfforddi a chefnogi staff rheng flaen i weithredu strategaethau CYC.

Monitro ac adolygu cynlluniau cymorth ymddygiad i sicrhau deilliannau cadarnhaol a gwelliant parhaus.

Cydweithio yn aelod o dîm amlddisgyblaethol.

Hyrwyddo arferion lleiaf cyfyngol ac eirioli dros hawliau a dewisiadau'r unigolion rydym yn eu cefnogi.

Rydym yn cynnig:

Amgylchedd gwaith cefnogol sy'n ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol.

Mynediad at hyfforddiant a goruchwyliaeth o ansawdd uchel.

Opsiynau gweithio'n hyblyg.

Gwyliau blynyddol hael a chynllun pensiwn llywodraeth leol.

Gwnewch Gais Nawr

Os ydych chi'n angerddol dros wneud gwir wahaniaeth ac eisiau gweithio mewn awdurdod lleol blaengar, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Darren Evans Arweinydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, Darren.Evans@wrexham.gov.uk, 07384535490.