MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Ysgol I D Hooson
Heol Caradog
Rhosllannerchrugog
Rhif Ffôn: 01978 832950
Cadeirydd y Llywodraethwyr: Geraint Phillips
PhillipsG91@hwbcymru.net
Cyfanswm ar y Gofrestr: 227
PENNAETH
I ddechrau Mis Ionawr 2026
Arweinyddiaeth L14 - L20
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn gwahodd penaethiaid neu ymarferwyr profiadol sy'n meddu ar gymhwyster CPCP i wneud cais ar gyfer swydd pennaeth.
Rydym yn Ysgol Gynradd Gymraeg sy'n gwasanaethu pentref Rhosllannerchrugog a'r cyffiniau. Mae'r ysgol hefyd yn cynnig gofal plant cofleidiol gan gynnwys darpariaeth Dechrau'n Deg. Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill o ran estyniad i'r adeilad presennol.
Prif nod yr ysgol yw darparu awyrgylch hapus a diogel lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi ac rydym yn ymdrechu i sicrhau cydbwysedd rhwng llwyddiant academaidd a datblygiad sgiliau personol cadarn. Anelwn at ddarparu'r addysg orau bosibl, gan adlewyrchu anghenion pob disgybl unigol gan alluogi pob un i gyrraedd ei lawn botensial.
Mae gennym ddisgyblion uchel eu cymhelliant, staff ymroddedig, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu ymroddedig a gweithgar
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi pennaeth brwdfrydig a gweledigaethol gyda sgiliau arwain rhagorol ac ymrwymiad ac awch i gynnal safonau a lefelau cyrhaeddiad uchel. Mae'r gallu i gyfathrebu ac i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr:
• dangos arweinyddiaeth gref a deinamig gyda gweledigaeth glir ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg
• dangos ymrwymiad cadarn tuag at hyrwyddo iechyd a lles, llais y dysgwr ac addysg cyfrwng Gymraeg
• modelu ac ysbrydoli arfer ardderchog yn yr ystafell ddosbarth a chynnal angerdd cryf dros addysgu a dysgu
• ysgogi ac ysbrydoli'r holl ddisgyblion a staff
• meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'r holl randdeiliaid
• datblygu potensial llawn pob plentyn ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol
• cynnal a chryfhau'r cysylltiadau ar draws ein clwstwr, gan hyrwyddo arfer gorau
• creu amgylchedd sy'n sicrhau dysgu effeithiol i'r holl ddisgyblion ac yn hyrwyddo safonau cyflawniad uchel.
• arddangos y gallu i arloesi ac addasu i ddatblygiadau mewn addysg.
• arddangos sgiliau rheoli ariannol cryf gan ofalu bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i sicrhau gwerth gorau.
Croesawir ymweliadau â'r ysgol cyn ymgeisio. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad ar gyfer ymweliad cysylltwch â'r Pennaeth, Rhodri Jones, trwy ebostio Headteacher@hooson-pri.wrexham.sch.uk
Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawl i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig.
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR ar e-bost: PhillipsG91@hwbcymru.net
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
DYDDIAD CAU: 16/06/2025
Gweithgareddau yn yr Ysgol: 30/06/2025 and 01/07/2025
Cyfweliad: 07/07/2025