MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

GOFALWR/GLANHÄWR

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Minera VA

Minera Hall Road

Minera
Wrecsam
LL11 3YE

01978 269500

Pennaeth: Mr Spencer Williams

GOFALWR/GLANHÄWR

G04 £10,040 - £10,199 y flwyddyn

17.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Mwynglawdd, sy'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, am benodi Gofalwr llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm ymroddedig a brwdfrydig o staff.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn berson ymarferol, llawn cymhelliant gydag agwedd gadarnhaol, sy'n gallu defnyddio menter wrth ofalu am ein hadeilad a'n safle ysgol i safon uchel.
Bydd y person a benodir yn gyfrifol am gadw ein hysgol yn ddiogel ac yn gallu gwneud mân waith cynnal a chadw, gwneud gwiriadau diogelwch yn ôl yr angen a sicrhau bod cofnodion digonol yn cael eu cadw. Bydd yn trefnu symud gwastraff o'r adeilad a'r tir yn effeithlon, gan gynnwys ailgylchu, ac yn sicrhau bod y mannau awyr agored yn cael eu cadw'n glir o chwyn, dail, sbwriel a malurion.

Fel prif ddeiliad yr allweddi, bydd hefyd yn gyfrifol am agor a chloi'r ysgol bob dydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am oruchwylio'r glanhawyr yn yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn trefnu glanhau tu mewn i'r ysgol i safon uchel o lendid ac yn sicrhau bod stociau'n cael eu hailgyflenwi yn ôl yr angen.

Mae profiad yn ddymunol, ond gellir rhoi hyfforddiant.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth am ragor o wybodaeth.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod. headteacher@minera-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.