MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 - Noddfa

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 - Noddfa
Dros Dro (01/09/25 - 20/07/26) - 30 awr yr wythnos
G06: £27,711 - £29,093 pro rata
Yn ystod y tymor yn unig 39 wythnos

Oherwydd prosiect peilot cyffrous yn Noddfa, mae cyfle wedi codi i ymarferwr hynod ysgogol, medrus sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ymuno â'r tîm.

Mae'r gallu i ddangos diddordeb brwd ac angerdd dros weithio gyda phlant ag anghenion hynod gymhleth yn hanfodol.

Bydd hefyd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos sut y mae wedi gweithio'n llwyddiannus gyda rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant/pobl ifanc.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 11/06/25

I gael ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â Phennaeth Noddfa, Kelly Williams ar 07425681599

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r gan cyfeiriad e-bost isod.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.