MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gradd 6 (£27,269 x 77.15%)a Lwfans AAA (£1,491 x 77.15%)  
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Learning Support Assistant (Centrally Funded) Mountain Ash comprehensive

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Gradd 6 (£27,269 x 77.15%)a Lwfans AAA (£1,491 x 77.15%)  

Learning Support Assistant (Centrally Funded) Mountain Ash comprehensive

Disgrifiad Swydd
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes RhCT

Ysgol Gyfun Aberpennar (2 swydd)

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu

Dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3/4 sydd ag anawsterau dysgu cymhleth

Graddfa Gyflog: Gradd 6 (£27,269 x 77.15%)a Lwfans AAA (£1,491 x 77.15%)

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025

Tymor yr ysgol yn unig

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu i ddechrau ym cyn gynted ag sy'n bosibl ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion addysgol ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Helen Jenkins, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Canolfan Menter y Cymoedd (01443) 744333.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 13/6/25

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.