MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060
Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - Iechyd a Llesiant i gynorthwyo'r gwaith o hybu a datblygu chwaraeon yn yr ysgol. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â ni mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo rhagoriaeth, cynhwysiant a disgwyliadau uchel.Gradd 6 - £27,269 am 37 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £23,953.21 pro rata yn codi i 46.8 wythnos, £24,476.20 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Bydd gofyn i'r Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - Iechyd a Llesiant yn bennaf hybu a datblygu chwaraeon yn ystod amser y cwricwlwm, a sefydlu gweithgareddau allgyrsiol sy'n ennyn diddordeb bechgyn a merched o bob gallu o fewn rhaglen chwaraeon gwbl gynhwysol. Mae'r rhaglen yn datblygu hyfforddwyr, dyfarnwyr, gweinyddwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal â chyfranogwyr sydd â chysylltiadau sefydledig â darpariaeth clwb / clwstwr a chymunedol. Bydd y rôl hefyd yn cynorthwyo'r gwaith o ddarparu a chyflwyno cwrs Chwaraeon Lefel 3 BTEC a ddarperir yn yr ysgol.
Mae addysg o safon dda, sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth o anghenion a hawliau plant / pobl ifanc, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phlant, yn hanfodol i'r rôl hon. Os ydych yn teimlo bod gennych yr awydd, y penderfyniad a'r sgiliau i ymuno â'n tîm ac yn teimlo y gallwch ateb yr heriau a ddaw gyda'r swydd, byddwn wrth ein boddau'n clywed gennych.
Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein disgyblion yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ac rydym yn awyddus i rannu gwybodaeth i'ch helpu i wneud cais llwyddiannus. Gallwch fynd i'n gwefan i gael mwy o wybodaeth am yr ysgol neu i gyfrifon Facebook neu X (Twitter gynt) yr ysgol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.