MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn addysgu ar draws Lefelau 2 a 3 (cyfwerth â Lefel AS/Lefel A). Mae'n debyg y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer addysgu ar ein rhaglenni lefel Gradd (Lefelau 4, 5 a 6), a ddysgir yn ystod y dydd a gyda'r nos ar ddydd Mawrth/Iau, yn amodol are u hargaeledd.

Croesewir ceisiadau'n arbennig gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol neu unrhyw ddisgyblaeth gyffelyb a fyddai'n gofyn am ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth a pholisïau yn y sector Gofal Iechyd.

Bydd y rôl yn caniatáu i chi ddod â'ch arbenigedd sector presennol a chael eich cefnogi i ddatblygu fel darlithydd Addysg Bellach, gyda chanllawiau a chefnogaeth tîm o Arweinwyr Rhaglenni, Cydlynwyr a Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth o fewn yr adran.

Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd deniadol ar gyfer ein dysgwyr, ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o methodolegau dysgu a dysgu rhyngweithiol, I ymgysylltu a chynnwys dysgwyr, gan ddod â'r dysgu'n fyw.

Byddwch yn gallu rhannu gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau o fewn yr addysgu a'r dysgu a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad manwl o ddyletswyddau, heriau, llawenydd a gwobrau dilyn gyrfa mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gallai'r swydd hon gynnwys arweinyddiaeth rhaglen ddysgu, felly, byddem yn chwilio am unigolyn hyderus, trefnus, cefnogol a brwdfrydig sy'n barod i gymryd cyfrifoldeb am y ddarpariaeth y gallent ei harwain.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a diwydiant. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y sector sy'n edrych i gymryd eu camau cyntaf i addysgu. Byddem yn fodlon ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai rannu swydd er mwyn gallu parhau i weithio'n ymarferol yn ochr yn ychr â chymryd swydd addysgu.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/191/25

Cyflog
£32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
  • 46 diwrnod y flwyddyn o wyliau.
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos.

835 awr o oriau addysgu blynyddol - 24 i 26 o oriau addysgu bob wythnos.

Hyd at 5 awr yr wythnos o "weithio oddi ar y safle" i'w gytuno â Rheolwr y Rhaglen

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
28 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)