MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944 + TLR 2A £3,451
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Gwyddoniaeth - Ysgol Bro Gwaun

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944 + TLR 2A £3,451

ATHRO / ATHRAWES GWYDDONIAETH ac Arweinydd SPARC STEM

Swydd Llawn Amser, Parhaol

Tâl: Prif Raddfa + TLR2A ar gyfer Cyfrifoldeb SPARC STEM* (wedi'i ariannu'n allanol tan o leiaf 31/08/2026)

Ar gyfer Mis Ionawr 2026 neu cyn gynted â phosibl.

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol flaengar a llwyddiannus.

Rydym yn ceisio penodi athro Gwyddoniaeth brwdfrydig ac ysbrydoledig i ddysgu CA3 a TGAU.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro/athrawes hyderus ac effeithiol, yn frwd dros ei bwnc, yn gallu ysgogi a gweithio'n dda gyda myfyrwyr a chydweithwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arwain y fenter SPARC, sy'n cael ei hariannu trwy 'Fargen Bae Abertawe' i hyrwyddo cyfranogiad benywaidd mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy, peirianneg ac adeiladu. Mae hwn yn brosiect sydd â'r nod o gefnogi'r buddsoddiad sylweddol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer datblygu diwydiannau adnewyddadwy a diwydiannau eraill sy'n gysylltiedig ag ynni yn ne'r sir

Rydym yn falch o fod yn ysgol gynnes, croesawgar sydd â disgwyliadau uchel o bob dysgwr yn ein cymuned. Mae'r staff, myfyrwyr, rhieni a phartneriaid yn gweithio'n agos gyda'i gilydd tuag at ein datganiad cenhadaeth: 'ein gorau bob amser: i'n hysgol, i eraill, i ni ein hunain.'

Estyn:

"Mae Ysgol Bro Gwaun yn gymuned ofalgar sy'n canolbwyntio'n frwd ar ddatblygu'i disgyblion yn ddinasyddion hyderus a chyfrifol. Mae'r perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff a disgyblion yn gryfder nodedig yn yr ysgol."

Mae Ysgol Bro Gwaun yn ysgol ddwyieithog. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

* Sylwch fod y cyllid hwn wedi'i ddarparu'n allanol a'i fod ar gael i bob ysgol uwchradd yn Sir Benfro. Nid yw'n rhan o ffrwd ariannu arferol yr ysgol a bydd y penderfyniad i ddileu neu gadw'r cyllid yn ei le yn cael ei wneud gan Fwrdd Datblygu Strategol SPARC.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Miss Alana Finn, Diprwy Pennaeth alana.finn@ysgolbrogwaun.com neu 01348 872268.

Mae Ysgol Bro Gwaun yn gweithredu polisiau Diogelu Gwasanaeth Addysg Sir Benfro. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau hyn ar gyfer ein holl ddisgyblion ac yn cydnabod hawl pob un i dderbyn y gefnogaeth hon. Gweithredir hyn yn unol â blaenoriaethau ac ethos yr ysgol.

Dyddiad cau: 21 Gorffennaf 2025

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.