MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Dros Dro - Ysgol Swn y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon

YSGOL SŴN Y DON

Penmaenrhos, Bae Colwyn, LL29 9LL

Rhif ffôn: (01492) 577290

Pennaeth: Mrs Suzanne Fox

Yn eisiau erbyn Medi 2025

ATHRO/ATHRAWES DROS DRO

(Contract dros dro hyd at 31/08/2026)

Mae Ysgol Sŵn y Dôn yn ceisio penodi athro brwdfrydig ac ymroddedig sy'n rhannu ein hymrwymiad i addysg sy'n canolbwyntio ar y plentyn a gwerthoedd cymunedol. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd meithringar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei gefnogi i ffynnu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos diddordeb penodol mewn dysgu awyr agored/Ysgol Goedwig, a bydd yn hyderus wrth gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ar draws ystod o grwpiau oedran cynradd i gefnogi darpariaeth PPA. Mae dealltwriaeth gref o reoli ymddygiad, ochr yn ochr â dull meithringar sy'n seiliedig ar drawma, yn hanfodol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n fyfyriol, yn awyddus i ddatblygu'n broffesiynol, ac wedi ymrwymo i feithrin llais a lles y disgybl. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy'n edrych ymlaen ac sy'n rhoi chwilfrydedd, gwydnwch a datblygiad cyfannol plant wrth wraidd ei ymarfer.

Gweledigaeth. Dyhead. Pwrpas.

Yn Sŵn y Don, rydym yn meithrin creadigrwydd ac yn annog pawb i ddilyn eu breuddwydion.

Rydym yn angerddol am roi'r plant yn gyntaf, drwy gwricwlwm cynhwysol, ysbrydoledig ac arloesol, sy'n mynd y tu hwnt i'r dosbarth. Rydym yn darparu amgylchedd dysgu wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, parch a derbyn. Mae ein plant yn ddiogel a hapus.

Yn Sŵn y Don, rydym wir yn credu bod popeth yn bosibl!

Drwy gefnogaeth a gofal, rydym yn rhoi grym i'n disgyblion i fod yn llwyddiannus, a rhoi'r arfau iddynt ddeall sut i fyfyrio, datblygu a chymryd cyfrifoldeb am eu teithiau dysgu eu hunain.

Cydweithio i sicrhau gwell dyfodol i bawb!

Ehangu eich gorwelion.

Credu yn eich breuddwydion.

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon profiadol ac ymroddgar, sy'n deall pwysigrwydd datblygu'r Cwricwlwm i Gymru, drwy'r pedwar diben a gosod lles a meithrin wrth wraidd eu haddysgu a'u dysgu.

Yr hyn rydym ni'n ei gynnig:
  • Ysgol gyfeillgar, groesawgar, sy'n meithrin, a ble mae pawb y cael ei werthfawrogi.
  • Amgylchedd sy'n seiliedig ar Drawma, a'n gwerthoedd craidd yw cynhwysiant, cydraddoldeb a thegwch.
  • Staff ymroddgar, llawn cymhelliant sy'n credu mewn gwaith tîm a meithrin perthnasoedd positif yn yr ysgol a'r gymuned.
  • Cefnogaeth lawn y Pennaeth a'r Llywodraethwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • Yn gallu dangos sgiliau effeithiol mewn trefnu dosbarth a rheoli ymddygiad.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol â dysgwyr, aelodau'r Corff Llywodraethu, staff, rhieni/ gofalwyr a gallu meithrin perthnasoedd effeithiol â gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Gallu bodloni gofynion y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain.
  • Gallu gweithio'n effeithiol ar eich liwt eich hun yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn ddibynadwy, gwydn, hyblyg a rhagweithiol.
Rydym yn chwilio am:
  • Ymarfer eithriadol yn y dosbarth a gallu ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr ifanc; bydd yr ymgeisydd yn ysbrydoledig, arloesol, creadigol, gofalgar, llawn brwdfrydedd a bydd yn gwneud addysg ein plant yn bleserus a hwyliog.
  • Gwybodaeth dda am systemau gofal bugeiliol, yn cynnwys grymuso disgyblion.
  • Gallu gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd fel aelodau o'n tîm ysgol cryf a chyfrannu'n llawn at fywyd yr ysgol yn cynnwys gweithgareddau allgyrsiol.
  • Athro/athrawes ofalgar sydd â lles disgyblion a'u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnânt.
  • Mantais ychwanegol fyddai cael ymgeiswyr sydd â diddordeb a phrofiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rhinweddau a sgiliau dymunol:
  • Gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o brosesau asesu a chamau cynnydd.
  • Awydd i ddatblygu sgiliau arwain a cheisio datblygu eu dysg broffesiynol eu hunain.
  • Gallu arwain mentrau ysgol gyfan yn llwyddiannus drwy gydweithio a phrosiectau'n seiliedig ar ymchwil.

Mae gallu addysgu a chyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd. Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau gweithio.

Sylwer nad yw'r awdurdod yn rhoi ffurflenni cais bellach, nac yn derbyn CVs.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth ar 01492 577290

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na chewch glywed o fewn 3 wythnos o'r dyddiad cau, dylai ymgeiswyr gymryd nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad ac felly ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English