MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Teitl y Swydd: Rheolwr Safle/Gofalwr
Dros dro tan fis Gorffennaf 2026 gyda chyfle am swydd barhaol
Rydym yn chwilio am Reolwr Safle brwdfrydig, dibynadwy a chyfeillgar sy'n ymroi i'r fro leol i ymuno â'n hysgol yn llawn ym mis Chwefror 2025.
Bwriadwn benodi rhywun brwdfrydig â synnwyr digrifwch iach i chwarae rhan allweddol wrth gynnal a chadw safle'r ysgol a sicrhau fod yma amgylchedd croesawgar a diogel i bawb yn yr ysgol.
Yr oriau gwaith arferol yn ystod y tymor yw 6.45am - 8.15am a 4.30pm - 6.00pm. Mae'n rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod gwyliau'r ysgol. Gellir dod i drefniant â'r Pennaeth ynglÅ•n â'r oriau gwaith yn ystod gwyliau'r ysgol, a thrafodir oriau wythnosol ychwanegol yn y cyfweliad.
Byddwch yn gyfrifol am gadw'r ysgol yn ddiogel, yn gallu gwneud mân waith trwsio, cynnal archwiliadau diogelwch fel bo'r angen a sicrhau y cedwir cofnodion digonol. Byddwch hefyd yn brif ddeiliad yr allweddi ac felly'n gyfrifol am agor a chloi'r ysgol bob dydd.
Byddwch yn trefnu bod gwastraff yn cael ei waredu'n effeithlon o'r adeilad a thir yr ysgol, gan gynnwys deunydd ailgylchu, a sicrhau bod y tu allan yn glir o chwyn, sbwriel a llanast.
Disgwylir i chi fynd i'r ysgol fel y bo'n briodol y tu allan i oriau gwaith arferol os digwydd i'r larwm ganu neu os oes argyfwng arall. Mae'r swydd hon yn addas i rywun sy'n byw'n