MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
Athro dosbarth llawn amser yn Ysgol Gymunedol Neyland - cyflenwi yn ystod cyfnod mamolaethMae'r corff llywodraethu yn dymuno recriwtio ymarferydd ystafell ddosbarth deinamig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm llwyddiannus yn Ysgol Gymunedol Neyland o 3 Tachwedd 2025 am hyd at flwyddyn, i gyflenwi swydd athrawes bresennol a fydd ar absenoldeb mamolaeth tan 31 Awst 2026.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fydd yn gwneud y canlynol:
- Cefnogi amcanion ac ethos ein hysgol
- Yn hynod drefnus a pharatoi'n drylwyr
- Dod â brwdfrydedd i'w hystafell ddosbarth a chyffroi ac ennyn diddordeb pob disgybl yn eu dysgu
- Dangos arferion addysgeg cryf ac effeithiol
- Meddu ar ddisgwyliadau uchel o bob plentyn a phenderfyniad i gyflawni safonau uchel
- Yn barod i gyflwyno syniadau newydd ac i gefnogi cydweithwyr, gan wella eu hymarfer eu hunain ac ymarfer eraill.
Gallwn gynnig cymuned ysgol gynnes a chefnogol ag ethos cryf yn sail iddi, cymorth tîm o staff a llywodraethwyr sy'n weithgar ac yn ymrwymedig, a phlant hapus sy'n awyddus i ddysgu. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o'r ymarfer yn ein hysgol ac i lunio'r ymarfer hwnnw.
Nododd ein harolygiad llwyddiannus diweddar gan Estyn (Mawrth 2023) lawer o gryfderau;
Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn leoliad lle mae disgyblion, staff a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi. Cryfder nodedig yn yr ysgol yw'r ethos gofalgar cryf a'r ymddiriedaeth a'r parch rhwng disgyblion a staff. Mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu diwylliant cadarnhaol o waith tîm ymhlith y staff a'r gymuned leol. Mae'r ysgol yn darparu ystod gyfoethog, eang a chytbwys o brofiadau dysgu a darpariaeth ychwanegol.
Yn ein hysgol, rydym yn siarad am 'fynd yr ail filltir' ac yn dangos hyn yn weithredol i'n plant, ein teuluoedd a'n cymuned. Mae'n allweddol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o hyn ac yn arddangos sgiliau i ddod yn rhan weithredol o'n hethos cadarnhaol a gofalgar wrth ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i'n disgyblion.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â'r Pennaeth ar HewittC30@Hwbcymru.net .
Edrychwch hefyd ar wefan ein hysgol https://neylandcommunity-school.co.uk/home a'n tudalen Facebook i ddysgu mwy am ein hysgol effeithiol.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 11 Medi
Llunio'r rhestr fer: Dydd Gwener, 12 Medi
Cyfweliadau: Dydd Llun, 22 Medi
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddim yn hafodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.