MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Pobl Ifanc Egnïol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Pobl Ifanc Egnïol

Dros Dro tan fis Mawrth 2026, yn sgil cyllid
G07 £16.35 - £17.18

Rydym yn chwilio am unigolyn a fydd, fel rhan o dîm, yn gyfrifol am ddarparu Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol yn Wrecsam, wedi eich lleoli o fewn Datblygu Chwaraeon.

Prif Ddyletswyddau
Cynnal rhaglen bresennol o weithgareddau chwaraeon mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd lleol a'r gymuned ehangach.
Gweithio fel rhan o dîm i ddatblygu arweinwyr ifanc. Llysgenhadon a gwirfoddolwyr chwaraeon ymhellach i helpu cefnogi'r rhaglen
Mae'n rhaid bod gennych ymagwedd hyblyg a'r gallu i weithio gyda'r nos, ar benwythnosau i gefnogi'r rhaglen a helpu ysgolion, clybiau ac unigolion i wella eu gallu i greu cyfleoedd ychwanegol yn y gymuned.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Louise Brady 01978 297359.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.