MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Teachers Salary plus ALN Allowance
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teacher: Autistic Spectrum Disorder - Porth Community School

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Teachers Salary plus ALN Allowance

Teacher: Autistic Spectrum Disorder - Porth Community School

Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig)

Wedi'i leoli yn Ysgol Gymuned y Porth

32.5 awr yr wythnos, parhaol (tymor yr ysgol)

Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans ADY

Dyddiad Dechrau: cyn gynted â phosibl

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro dosbarth rhagorol a llawn cymhelliant i weithio yn y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gymuned y Porth. Mae'r disgyblion yn y dosbarth rhwng 7 ac 11 oed.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd profiadol ac egnïol sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth o ystod o strategaethau addysgu, dysgu, asesu a rheoli ymddygiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ag awtistiaeth.

Ydych chi'n berson arloesol, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymiad? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan? Pe gallech chi wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein disgyblion, hoffen ni glywed gennych chi.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Williams, y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, neu anfon e-bost: Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Medi 2025

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.