MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Grade 6 plus ALN Allowance x 77.15%
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Learning Support Assistant - Porth Community School

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Grade 6 plus ALN Allowance x 77.15%

Learning Support Assistant - Porth Community School

Disgrifiad Swydd
Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig - yn Ysgol Gymunedol Porth

32.5 awr yr wythnos, parhaol (tymor yr ysgol)

Graddfa Gyflog: Gradd 6 pro rata (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig)

Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes ddosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Os ydych chi'n angerddol am ddysgu a lles plant ac eisiau eu helpu nhw i ffynnu a llwyddo; yn unigolyn sy'n cael ei arwain gan werthoedd gyda disgwyliadau uchel o gyflawniad am eich hun ac eraill; yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando ardderchog ac yn gweithio'n dda yn rhan o dîm sy'n fodlon cymryd rhan ym mywyd llawn yr ysgol, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rachel Williams:

Rachel.Williams3@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Medi 2025.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.