MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Teachers Payscale
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teacher: Autistic Spectrum Disorder - Porth Community School

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Teachers Payscale

Teacher: Autistic Spectrum Disorder - Porth Community School

Disgrifiad Swydd
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder Sbectrwm Awtistig) yn Ysgol Gymuned Porth

Cyfnod Mamolaeth

Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans ADY

Dyddiad Dechrau: 3 Tachwedd 2025

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro/athrawes â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistig yn Ysgol Gymuned Porth.

Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistig yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 8 disgybl o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a bydd yn cael ei staffio gan athro/athrawes a dau Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistig a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rachel Williams: rachel.williams3@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 744333.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 12 Medi 2025

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan Recriwtio'r Cyngor.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.



YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.