MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Cynorthwy-ydd Addysgu (Cyfnod Mamolaeth)
Generig Lefel 2 (27 awr)
Angen ar gyfer Hydref, 2025
(Neu cyn gynted a phosib)
Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Trallwng yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgeg ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer yr ysgol flaengar a chynhwysol hon.
Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ysgol gynradd sy'n ysgogi a chefnogi pawb sy'n ynghlwm â'r ysgol mewn modd creadigol, torfol a byrlymus. Mae'r ysgol yn cynnig profiadau newydd, gwerthfawr ac unigryw sy'n sicrhau profiadau dysgu arloesol a difyr. Mae'r staff yn gofalu'n gydwybodol a theyrngar am eu disgyblion ac mae'r disgyblion yn teimlo'n ddiogel
ym mhob achos. Mae'r ysgol yn canolbwyntio ar ysgogi pob disgybl i fod yn fedrus a deallus, yn ogystal â datblygu'r staff yn broffesiynol. Mae ffocws angerddol ar yr iaith a'r ymdeimlad o berthyn wrth hybu a ffynnu'r Iaith Gymraeg yn y Trallwng. Yn dilyn adroddiad Estyn llwyddiannus ac adeilad newydd anghredadwy, mae dyfodol disglair iawn o'n blaenau.
Bydd ein cynorthwy-ydd newydd yn uchelgeisiol ac yn meddu ar ddisgwyliadau uchel, yn ffynnu ar her, yn gweithio'n galed, yn arddangos sgiliau pobl rhagorol a bydd ef/hi yn benderfynol o ddarparu'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn.
Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun
cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Dylid cyflwyno cais erbyn 15fed o Fedi, 2025
Dyddiad Cau: 15fed o Fedi, 2025
Rhestr Fer: 16eg o Fedi, 2025
Cyfweliadau: 22ain o Fedi, 2025
'Does neb yn berffaith, mae pawb yn wahanol. Mae'r ffordd yn un droellog i bawb'