MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Caernarfon,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £52,086 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Ansawdd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Ardal
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £52,086 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ffion Ellis Edwards ar 01286 679007 neu drwy e-bost: GweinyddolADYaCH@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau: 29/09/2025
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 16/09/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu cryf
Gallu i ddatrys anghydfod
Sgiliau negydu
Sensitifrwydd achos cymleth
Gallu dadansoddi data
Gallu i gydweithio
Sgiliau arweinyddiaeth tîm
Gosod targedau a'u monitro
Brwdfrydedd
Y gallu i feddwl am syniadau newydd
Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
Dymunol
Sgiliau cyfrifiadurol cymleth
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Statws Athro/awes Cymwysedig (SAC)
Dymunol
Ôl-radd / neu Gymhwyster Proffesiynol ADY neu Chynhwysiad
Elklan
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o:
Fonitro ansawdd yr addysgu a dysgu i ddisgyblion ADY
Dealltwriaeth eang o system ADYaCh awdurdod ac ysgol
Llunio Cynllun Datblygu Adran effeithiol
Arwain ar strategaeth ADY a Ch a chynllunio'n fwriadus i sicrhau darpariaethau gorau i ddisgyblion ADY
Hyfforddi staff ac yn ddalgylchol
Ymwybyddiaeth o ddulliau asesu addysgol ac ymddygiadol
Adrodd ar gynnydd disgyblion ac effeithiolrwydd darpariaethau a gynigir
Arwain
Trefnu staff a chreu map darpariaeth
Coladu data ac ymateb yn effeithiol i'r canfyddiadau
Dymunol
Profiad o:
Fod yn Gydlynydd ADYaCh effeithiol
Hyfforddi cymorthyddion a/neu athrawon
Dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Cynlluniau Datblygu Unigol
Cyflwyno gwybodaeth i eraill
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Dealltwriaeth o anghenion amrywiol
Arwain staff i wahaniaethu gwaith
Gallu i greu adroddiadau
Gallu i adrodd i'r Byrddau Monitro Ardal ac ADYCh
Dymunol
-
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Gweithredu fel Swyddog Ansawdd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar gyfer ardal benodol ar ran Adran Addysg Gwynedd ac Ynys Môn gan gyfrannu at ddatblygiad disgyblion oddi fewn a thu allan i ysgolion gan gyd weithio â gwasanaethau plant cysylltiedig, i'r perwyl hwnnw. Cyfrannu'n sylweddol at brif nod yr Awdurdodau sef gofalu bod ein holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial llawn.
• Bydd deilydd y swydd yn hyddysg ac yn gallu cynnig arweiniad ar feysydd ADY a Chynhwysiad, a chyda dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth cyfredol ADY a Chynhwysiad Llywodraeth Cymru.
• Bydd deilydd y swydd gyda profiad sylweddol ym maes ADY a Chynhwysiad, ynghyd â monitro answadd addysgol a rheoli staff.
• Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am weithredu'n llawn ddeilliannau'r Adolygiad Strategol ADY a Chynhwysiad Cyngor Gwynedd ac Ynys Môn
• Byddent hefyd yn cymryd rhan mewn arolygiadau ffurfiol ac hefyd yn gyfrifol am ymweld ag ysgolion fel rhan o drefn rhagweithiol gan adrodd ar gryfderau a meysydd sydd angen sylw gan
• Gynorthwyo ysgolion yn eu hunan arfarnu eu hunain
• Ddatblygu a gweithredu rôl yr awdurdodau lleol o ran codi safonau drwy herio a chefnogi ysgolion
• Cyfrifoldeb am weithredu o fewn ardal benodol i:
• Sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth wrth weithredu'n unol â'r deddfwriaethau a'r Cod Ymarfer perthnasol.
• Cynnal a monitro Cynlluniau Datblygu Unigol nifer bychan o'r disgyblion sydd ag anghenion mwyaf dwyso fewn ysgolion prif lif yr ardal.
• Gweithredu er mwyn sicrhau cysondeb ar lefel ardal benodol gan sicrhau fod Cydlynwyr yr Ardal yn gweithredu o fewn gofynion y Cod Ymarfer ADY a Chynhwysiad Cymru a Meini Prawf ADY a Chynhwysiad yr awdurdod.
• Gynghori a goruchwylio Cydlynwyr ADY a Chynhwysiad er mwyn sicrhau cysondeb gyda materion yn ymwneud â gweithredu dydd i ddydd a strategol yn eu rôl.
• Rhoi mewnbwn ar arfer dda i ysgolion er mwyn bwydo i brosesau hunan arfarnu a chynllun datblygu ysgol.
• Monitro defnydd effeithiol o adnoddau ADY a Chynhwysiad datganoledig yr ysgol.
• Adnabod anghenion hyfforddi ardal benodol
• Gymryd rhan o fewn datblygu a chynnal rhaglen hyfforddiant mewn swydd ADY a Chynhwysiad y ddwy sir a chynnig hyfforddiant yn ôl gofyn Cydlynwyr ac ysgolion ym maes Rôl, Arfer dda a Dyletswydd statudol Cydlynydd ADY a Chynhwysiad.
• Weithio fel rhan o dîm i sicrhau cysondeb ar draws Gwynedd a Môn.
• Dderbyn arweiniad gan yr Uwch Reolwr ADY, yr Uwch Reolwr Cynhwysiad a'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a chyd-weithio agos gyda'r Gwasanaethau ADY a Chynhwysiad eraill o fewn yr ardal.
• Derbyn arweiniad a chyd weithio'n agos efo'r Swyddogion Addysg (Gwynedd)/ Uwch Reolwr Safonau Ysgol a Chynhwysiad (Môn)
• Sicrhau fod ysgolion yn cyd-fynd ac amserlenni statudol a threfniadau'r awdurdod (e.e. ar gyfer Fforymau neu Baneli) gyda darparu'r wybodaeth sydd ei angen i wneud penderfyniadau.
• Fonitro ac adrodd ar:
• Darpariaeth ADYaCh o fewn yr ysgolion
• Adrodd ar ansawdd y dysgu a'r addysgu i ddisgyblion ADY
• Monitro a chynnig arweiniad ar gasglu data a deilliannau o'r canfyddiadau
• Adrodd ar ansawdd y Cydlynwyr Ardal
• Y gefnogaeth i rieni
• Cysondeb yn y gwasanaeth ar draws yr ardaloedd.
• Fod ysgol yn gwneud defnydd priodol o wasanaethau arbenigol sydd ar gael.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Gliniadur a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
Cyswllt gyda Rhieni
• Hyrwyddo a chysoni'r defnydd o ddulliau sy'n canolbwyntio ar unigolion i greu Cynlluniau Datblygu Unigol - gan gymryd cyfrifoldeb penodol i sicrhau fod rhieni yn derbyn y gefnogaeth briodol yn yr adolygiadau yma.
• Derbyn a delio gyda chwynion neu bryderon rhieni yn unol â pholisi y ddau Awdurdod Lleol
• Hyrwyddo a rhannu arfer dda o gyd-weithio gyda rhieni a gwarchodwyr.
Cydymffurfiaeth
• Cyfrifoldeb dros sicrhau arweiniad a chefnogaeth i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Ysgol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a'r deddfwriaethau perthnasol; y Cod Ymarfer ADY ac unrhyw bolisïau a gweithdrefnau ADY yr Awdurdod.
• Sicrhau fod ysgolion yn ymarfer y defnydd cywir o gofrestrau a dulliau electroneg o gadw data ADY - gan sicrhau mynediad at hyfforddiant TGCh yn ôl yr angen.
• Cyfrannu tuag at sicrhau ansawdd trwy fonitro effaith darpariaethau o fewn ysgolion ar gynnydd disgyblion gydag ADY yn ogystal â chost y ddarpariaeth, amlder yr adolygu a'n canolbwyntio ar unigolion.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes anghenion dysgu ychwanegol gan sicrhau bod pob ysgol yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol.
• Monitro ac adrodd ar ddefnydd cymorthyddion mewn dalgylchoedd o fewn yr ardal.
Trefniadaeth ADY ysgolion
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd (unigolion/ y gwasanaeth) yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu'n gyson yn ein hysgolion.
• Sicrhau cofnodion a bas data o'r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth.
• Dadansoddi data yn unol â'r galw a chyflwyno adroddiadau.
• Derbyn cyfeiriadau am gymorth ychwanegol gan sicrhau fod y dystiolaeth angenrheidiol yn cael eu cyflwyno i'r Fforwm Ardal ADYaCh yn brydlon a chyflawn.
• Cydlynu'r adborth o'r fforymau gan sicrhau gweithrediad rhan ddeiliaid perthnasol.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy'n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad.
• Gweithio ochr yn ochr, a derbyn arweiniad gan Seicolegwyr Addysgol yr Ardal.
• Sicrhau trosolwg ysgol ganolog o ran ansawdd a chynnwys y Cynlluniau Datblygu Unigol a chysoni'n canolbwyntio ar unigolion i'w creu a'u hadolygu.
• Cyfrifoldeb am gydlynu Cyfarfodydd y Fforwm Ardal ADYaCh/Panel Cymedroli fydd yn trafod y ddarpariaeth oddi fewn i'r Meini Prawf.
• Cyfannu tuag at y broses o gydgynllunio a chydweithredu amlasiantaethol ac o fewn y Tîm Integredig ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol.
• Sicrhau bod y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn weithredol o fewn yr ysgol, a sicrhau darpariaeth o'r ansawdd uchaf i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Gweithio'n Aml Asiantaethol
• Sicrhau cyswllt gweithredol gyda sefydliadau addysgol a phartneriaid addysgol eraill.
• Cyfrifoldeb penodol yn y cyfnodau trosiannol ar gyfer sicrhau cydweithio amlasiantaethol, gan gynnwys ôl 16.
• Ymwybyddiaeth o ddeddfau Gwasnaethau Cymdeithasol.
Rheoli Newid a Chynllunio
• Cyfrifoldeb am ymateb i ymholiadau cychwynnol rhieni, ac i geisio datrys unrhyw anghydfod ynglŷn â'r ddarpariaeth ADY oddi fewn i'r ardal.
• Cynorthwyo yn natblygiad gweithdrefnau ymgynghori addas a fydd yn sicrhau bod y Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yn cyfarfod ag anghenion a dyheadau defnyddwyr y Gwasanaeth
• Cyfrannu tuag at ymgynghori a rhannu gwybodaeth gyda'r holl fudd-ddeiliaid.
• Cyfrannu at ddealltwriaeth o anghenion disgyblion o fewn yr ardal yn y Fforymau amrywiol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Cynhelir rhai cyfarfodydd ar ôl oriau gwaith arferol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi