MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Swyddog Cymorth a Hyfforddiant SGR
Llawn amser
G07 - £ £31,537 - £33,143
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Hyfforddi a Chymorth System Gwybodaeth Reoli (SGR) i gynorthwyo ysgolion i ddefnyddio ein system SGR newydd, Bromcom.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol sy'n meddwl yn flaengar i ddod yn rhan ehangach o Dîm Ysgolion/TG SGR gyda chyfrifoldeb am ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion.
Mae'r rôl hon yn cynnwys cynorthwyo ysgolion i reoli a chynnal systemau data yr ysgol, sicrhau cywirdeb data, a chefnogi staff yn eu defnydd o'r SGR.
Rydym yn goruchwylio cyfrifiadau Llywodraeth Cymru ac yn cynnig arweiniad. Sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau diogelu data (GDPR) a pholisïau'r ALl Byddai meddu gwybodaeth am bolisïau o'r fath, yn fantais.
Bydd y rôl yn disgwyl lefel benodol o weithio ar eich menter eich hun, ond bydd gennych yr offer i adnabod a datrys materion sy'n gysylltiedig â SGR, gyda thimau ehangach, fel 3ydd Llinell Gymorth TG/Bromcom
Mae disgwyliad gennym y byddwch chi'n ceisio'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ac mae hyn yn cynnwys profion cyn rhyddhau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cyrsiau hyfforddi i bob ysgol fel rhan o'r rôl. Byddwn yn disgwyl rhywfaint o wybodaeth am Bromcom er y bydd hyfforddiant ac achrediad llawn yn cael ei ddarparu.
Er y byddwch wedi eich lleoli yn Nhŵr Redwither, bydd gennych yr opsiwn i weithio'n hyblyg, gyda pheth amser gartref, ar y safle ac yn y gweithle.
Mae angen gwiriad GDG manwl a chofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Cysylltwch â Jan Picken - Uwch Swyddog Hyfforddi a Chymorth SGR i gael rhagor o wybodaeth.
Jan.Picken@wrexham.gov.uk neu Ffôn: 01978 295468
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg