MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £39,152
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Ymgynghorydd Cyflogaeth Dros Dro

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £39,152

Uwch Ymgynghorydd Cyflogaeth Dros Dro

Disgrifiad Swydd
Uwch Ymgynghorydd Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant (EET) Cyfle i Gael Secondiad/Swydd dros dro (cyfnod mamolaeth)

Ydych chi'n angerddol am gefnogi pobl ifainc 16-25 oed sydd â phorofiad o ofal ar draws Rhondda Cynon Taf i gael manteisio ar gyfleoedd mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant a'u cynnal i'w helpu i oresgyn rhwystrau a chyrraedd eu potensial llawn?

Os ydych chi, mae cyfle cyffrous ar gael yn rhan o'r Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant i unigolyn proffesiynol, llawn cymhelliant, sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifainc, yn enwedig pobl ifainc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu mewn perygl o gefnu ar hynny.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyflwyno arbennig.
  • Canolbwyntio ar fanylion a chanlyniadau, ac yn gallu datrys problemau gyda sgiliau ymchwil a dadansoddi da.
  • Y gallu i ymgysylltu, ysgogi a meithrin ymddiriedaeth gyda phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.
  • Cysylltu â darparwyr hyfforddiant, colegau a chyflogwyr i nodi cyfleoedd addas.
  • Datblygu a chyflwyno gweithdai, sesiynau cyflogadwyedd a gweithgareddau meithrin hyder.
A chithau'n Ymgynghorydd Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant bydd gofyn i chi deithio'n annibynnol ledled Rhondda Cynon Taf yn unol â gofynion y swydd.

Mae buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnwys:
  • Gweithio hybrid
  • Cynllun Pensiwn
  • Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn Rhondda Cynon Taf
  • Cerdyn gostyngiadau Vivup i'w ddefnyddio gyda busnesau

Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Cydlynydd Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Kylie Braham ar 07799116571.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.