MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif Raddfa Gyflog
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Ddosbarth y Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Trefonnen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa Gyflog

Athro/Athrawes Ddosbarth y Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Swydd Athro/Athrawes llawn amser parhaol
ar gyfer y Ffrwd Gymraeg (Bl 2-4)
Ei angen/Ei hangen o 1.1.26 (neu'n gynt os yn bosibl)
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol sydd â ffocws cymunedol ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhai drwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae pob un o'n disgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. Yn adeilad yr ysgol, mae gennym
saith ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Ysgol cyn-ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau lleoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau Haf Bwyd a Hwyl fuddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.

Rydym yn chwilio am athro/athrawes sy'n:
• ymarferydd ystafell ddosbarth ardderchog sydd â gwybodaeth dda am addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2, a dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru,
• meddu ar ddisgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad,
• gweithio'n dda fel rhan o dîm,
• angerddol am wneud gwahaniaeth i'r plentyn 'cyfan'
• fodlon dangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.

Yn gyfnewid gallwn gynnig y canlynol i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu gofalgar gydag adnoddau da iawn
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Croesewir ac anogir ymweliadau â'r ysgol - gallwch gysylltu â swyddfa'r ysgol ar 01597822190 i drefnu ymweliad.
Dyddiad cau: 10.10.25
Llunio'r Rhestr Fer: 13.10.25
Cyfweliad: Wythnos yn dechrau i'w gadarnhau
Ar gyfer ffurflen gais a manyleb swydd, ffoniwch 01597826409, e-bost
recruitment@powys.gov.uk neu wneud cais ar-lein yn www.powys.gov.uk