MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 - Ysgolion (Ysgol Penames)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 - Ysgolion (Ysgol Penames)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwy-ydd Addysgu (Tîm Ymgysylltu Disgyblion - cyfnod penodol am
flwyddyn yn y lle cyntaf)
Graddfa 7: £30,024-£32,061 (Cyflog llawn amser)
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw pro rata'r uchod, ac mae am 32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn (ynghyd â hawl i wyliau) cyfrifir hyn ar gyfradd fesul awr o £15.56 yn codi i £15.81 ar ôl chwe mis, yna mae'n codi'n flynyddol i uchafswm o £16.61 (y raddfa gyflog gyfredol ar 02.09.2025)
Mae'r Corff Llywodraethol am benodi aelod newydd i ymuno â'n tîm ymgysylltu â disgyblion. Mae'r tîm hwn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wella ymgysylltiad, rheoleiddio a sicrhau bod systemau a strategaethau ymddygiad sy'n perfformio'n dda ac sy'n cael effaith dda yn yr ysgol yn cael eu datblygu. O dan arweiniad uwch arweinydd dynodedig, mae'm hwn yn chwarae rhan gweithredol o ran sicrhau dull o ymdrin ag ymyriadau llesiant, ymddygiad a rheoleiddio
ar gyfer disgyblion, gan gynnwys rheoli ymddygiad disgyblion. Bydd y rôl yn cynnwys sicrhau bod strategaethau a dulliau gweithredu yn cael eu gweithredu'n effeithiol a bod systemau priodol yn cael eu defnyddio i olrhain, monitro a gwerthuso cynnydd disgyblion. Mae arferion sy'n canolbwyntio ar ddisgyblion, gwaith tîm rhagorol, meddwl creadigol, cyfrinachedd a'r gallu i weithio'n galed mewn amgylchedd heriol wrth wraidd llwyddiant y tîm hwn. Mae aelodau'm hwn yn hyblyg gyda'r gallu, y penderfyniad a'r ymrwymiad i gydweithio âr uwch dîm arwain i hyrwyddo cyfeiriad strategol yr ysgol.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon