MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Trefonnen)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r swydd hon wedi'i chyfuno gyda'r rôl fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel
Uwch (Generig) Lefel 4 (SLF0171)
Swydd barhaol ar gyfer y Ffrwd Gymraeg: Cynorthwyydd
Cymorth Dysgu (Lefel 3)
18.25 awr yr wythnos/ 38 wythnos ynghyd â hawl gwyliau pro-rata
Ei angen/Ei hangen o 1.1.26 (neu'n gynt os yn bosibl)
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol sydd â ffocws cymunedol ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhai drwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae pob un o'n disgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. Yn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Clwb Gwyliau Bwyd a Hwyl buddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
Rydym angen cynorthwyydd cymorth dysgu i gefnogi dysgu disgyblion yn Ysgol Trefonnen.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu sy'n:
• llawn cymhelliant ac yn gallu meithrin perthnasoedd rhagorol gyda phlant.
• cyfathrebwr da yn y Gymraeg a'r Saesneg
• gallu cefnogi grwpiau o blant yn effeithiol yn ystod gwersi
• cael disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad
• gweithio'n dda fel rhan o dîm
• meddu ar brofiad o gefnogi dysgwyr sydd ag ADY
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu gofalgar gydag adnoddau da iawn
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Bydd angen gwiriad y gwasanaeth datgelu a gwahardd ar ymgeiswyr.
Dyddiad Cau: 10.10.25
Llunio'r rhestr fer: 13.10.25
Dyddiad y Cyfweliad: I'w gadarnhau