MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) Lefel 4 (Ysgol Trefonnen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) Lefel 4 (Ysgol Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r swydd hon wedi'i chyfuno gyda'r rôl fel Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (SLF0056)

Swydd barhaol ar gyfer y Ffrwd Gymraeg: Cynorthwyydd
Addysgu Lefel Uwch (Lefel 4) 9.25 awr yr wythnos/ 38 wythnos ynghyd â hawl gwyliau pro-rata
Ei angen/Ei hangen o 1.1.26 (neu'n gynt os yn bosibl)
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol sydd â ffocws cymunedol ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhai drwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae pob un o'n disgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. Yn adeilad yr ysgol,
mae gennym saith ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Clwb Gwyliau Bwyd a Hwyl fuddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch sy'n:
• llawn cymhelliant ac yn gallu meithrin perthnasoedd rhagorol gyda phlant.
• cyfathrebwr da yn y Gymraeg a'r Saesneg
• meddu ar ddealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru
• meddu ar brofiad o gynllunio, paratoi ac addysgu gwersi i ddysgwyr cynradd
• cael disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
• gweithio'n dda fel rhan o dîm
• meddu ar brofiad o gefnogi dysgwyr sydd ag ADY
Yn gyfnewid, gallwn gynnig y canlynol i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu gofalgar gydag adnoddau da iawn
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Bydd angen gwiriad y gwasanaeth datgelu a gwahardd ar ymgeiswyr.
Dyddiad Cau: 10.10.25
Llunio'r rhestr fer: 13.10.25
Dyddiad y Cyfweliad: I'w gadarnhau