MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Cylch Chwarae (Dechrau'n Deg) - Ysgol Gynradd Fenton
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
Gradd 3 - £24,796 am 27.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £16,188.52 pro rata.Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol yn ceisio penodi cynorthwywyr cylch chwarae sydd â brwdfrydedd dros weithio gyda phlant ifanc iawn.
Swydd tymor penodol yw hon tan 31/12/2025.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni'r canlynol:
- Yn rhoi sylw i anghenion personol y plentyn, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid a chymorth cyntaf.
- Yn goruchwylio a chynorthwyo plant, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad at ddysgu, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig
- Yn meithrin perthnasoedd da â phlant, gan weithredu fel esiampl dda
- Yn gallu dangos safon resymol o addysg ac yn meddu ar fedrusrwydd mewn llythrennedd a rhifedd hyd at lefel TGAU neu gyfwerth
- Yn meddu ar gymhwyster gofynnol Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu gymhwyster cyfatebol fel y cynhwysir yn Rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru.
- Yn meddu ar brofiad o weithio gyda phlant o oedran perthnasol, neu ofalu amdanynt, mewn amgylchedd cyflogedig, gwirfoddol neu ddomestig a'r gallu i ddangos diddordeb mewn datblygiad plant ac mewn ystod eang o faterion yn ymwneud â'u haddysg a'u llesiant.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.