MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/ Athrawes

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Alexandra
Bodhyfryd
Wrecsam
LL12 7AZ
01978 315120
Pennaeth: Mrs Lisa Roberts
Athro/ Athrawes Llawn Amser
I ddechrau 3 Tachwedd 2025 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Dros dro tan 31 Awst 2026 yn y lle cyntaf.
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Alexandra eisiau penodi athro/athrawes gynradd arbennig.
Mae Alexandra yn ysgol ffantastig gydag ethos gofalgar a chynhwysol. Bydd angen i'r ymgeiswyr fod yn arloesol, gweithgar, gwydn a chydag agwedd gadarnhaol. Bydd ganddynt sgiliau addysgu sy'n ysbrydoli, rheolaeth ragorol ar y dosbarth a byddant yn gallu gweithio mewn tîm mawr.
Gellir trefnu ymweliadau â'r ysgol trwy apwyntiad.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Pennaeth ar 01978 315120.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
mailbox@alexandra-pri.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 26 Medi, 9:00am