MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 7 - £32,061 - £35,412 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Dysgu Awyr Agored - Canolfan Ddysgu Sir Benfro

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 7 - £32,061 - £35,412 pro rata

Gradd 7 - £32,061 am 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £24,737.35 pro rata, gan godi i 46.8 wythnos y flwyddyn a £27,919.45 pro rata ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

Ydych chi'n frwd dros allu addysg awyr agored i ysbrydoli, ymgysylltu a thrawsnewid bywydau? Mae Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn chwilio am Gydlynydd Dysgu Awyr Agored ymroddedig a brwdfrydig i ddatblygu ac arwain profiadau dysgu awyr agored deinamig, sy'n seiliedig ar y cwricwlwm, ar gyfer unigolion a grwpiau o ddysgwyr.

Ynglŷn â'r Rôl.

Fel Cydlynydd Dysgu Awyr Agored, byddwch yn:
  • Cynllunio, arwain a gwerthuso rhaglenni deniadol ar y safle ac oddi ar y safle wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr a nodwyd.
  • Cyflwyno ystod eang o weithgareddau sy'n cyd-fynd âr Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau hygyrchedd a pherthnasedd.
  • Nodi a hyrwyddo llwybrau cymhwyster achrededig drwy brofiadau dysgu yn yr awyr agored.
  • Meithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol ac ysbrydoledig sy'n cefnogi twf personol, llesiant a chynnydd academaidd.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
  • Profiad o gyflwyno rhaglenni dysgu awyr agored neu raglenni dysgu drwy brofiad, yn enwedig mewn lleoliadau addysgol neu ieuenctid.
  • Gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru a'r ffordd y caiff ei gymhwyso i amgylcheddau dysgu annhraddodiadol.
  • Y gallu i gydweithio â staff, partneriaid allanol a theuluoedd i gefnogi ymgysylltiad a chanlyniadau dysgwyr.
  • Cymwysterau perthnasol mewn addysg awyr agored, gwaith ieuenctid, neu faes cysylltiedig.
  • Dull rhagweithiol, addasadwy, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.
Ysbrydoli. Grymuso. Trawsnewid trwy ddysgu yn yr awyr agored.

Gwefan: https://www.theplc.uk/

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.