MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £29,004 - £31,845 pro rata y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £29,004 - £31,845 pro rata y flwyddyn
Swyddog Cymorth Cymraeg y Coleg Cymraeg CenedlaetholGraddfa Gyflog 5: £29,004 - £31,845 pro rata y flwyddyn
0.5 cyfwerth ag amser llawn (18.5 awr yr wythnos) a Pharhaol
Ydych chi'n angerddol am yr iaith Gymraeg ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau dysgwyr? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm Cymraeg!
Diben y Swydd: Gweithio o fewn yr adrannau, i hyrwyddo, hwyluso a chynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth yn ddyddiol. Cefnogi ac annog dysgwyr gyda phob agwedd ar yr iaith Gymraeg.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau iaith Gymraeg ysgrifenedig a llafar rhagorol a'r gallu i weithio'n gytøn gyda dysgwyr a staff. Bydd ganddynt hefyd wydnwch emosiynol wrth weithio gyda myfyrwyr mewn sefyllfaoedd heriol. Mae dealltwriaeth a gwybodaeth am Safonau'r Iaith Gymraeg a gofynion cydymffurfio yn ddymunol.
Os ydych chi'n barod i wneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad yr iaith Gymraeg a'n helpu i greu amgylchedd dysgu hyd yn oed yn fwy cynhwysol, rydym am glywed gennych chi!
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.