MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Disgyblion a ADD/ADDLI - Canolfan Amanwy Ysgol Dyffryn Aman (Mamolaeth)
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2242
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
17 Gorffennaf 2026
Lleoliad:
Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.72 - £30.04
Oriau Contract:
1.00 llawn amser (10 sesiwn)
Dewch i ymuno â'n tîm
Rydym yn dymuno penodi athro dosbarth/athrawes ddosbarth sydd â phrofiad a chymhelliant cryf o ADD/ADDLl a phrofiad diweddar mewn ysgol uwchradd er mwyn cyfrannu'n llawn yng Nghanolfan Amanwy.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Gyfrifol am reoli dosbarth ADD/ADDLl.
- Dangos sgiliau arbenigol o ran addysgu disgyblion ag ADD/ADDLl.
- Dangos gwybodaeth bynciol gadarn o'r cwricwlwm i Gymru a brwdfrydedd i gefnogi pobl ifanc i wneud cynnydd.
- Dangos lefel dda o ddealltwriaeth ynghylch dulliau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion er mwyn cefnogi dysgu wedi'i deilwra'n bersonol
- Gallu dysgu'n arloesol a chreadigol gan ddefnyddio ystod o ddulliau sy'n diwallu anghenion myfyrwyr unigol.
- Ymarferydd rhagorol yn yr ystafell ddosbarth ADD/ADDLl a meddu ar sgiliau ardderchog o ran rheoli ymddygiad.
- Meddu ar brofiad llwyddiannus o ran ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn iddynt gael canlyniadau da.
- Meddu ar sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu ac ymwneud ag eraill.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Mr Adam Goodman - 01269 592441
Disgrifiad Swydd:
006336 - Teacher Canolfan Amanwy.pdf - 253KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 21/09/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.