MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Addysg Gorfforol I Ferched

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Lôn Rhosnesni
Wrecsam
LL13 9ET
Ffôn: 01978 340840
Pennaeth/Headteacher: Mr A Brant, BSc (Anrh), CPCP
www.rhosnesni-high.wrexham.sch.uk

ATHRO ADDYSG GORFFOROL I FERCHED
Angen ar gyfer mis Hydref 2025 (Mamolaeth)
PRG/GGU

Mae Ysgol Rhosnesni yn ysgol gyfun 11-16 oed yn Wrecsam, Gogledd Cymru, gyda 1130 o fyfyrwyr ar y gofrestr ar hyn o bryd.

Mae llywodraethwyr yn awyddus i benodi ymarferydd rhagorol i swydd
Athrawes Addysg Gorfforol i Ferched (dros dro). Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus
addysgu ar draws yr ystod oedran 11-16 oed.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso.

Mae Ysgol Rhosnesni yn gofyn am unigolyn creadigol, ysbrydoledig a dibynadwy i ymuno ag
adran addysg gorfforol brofiadol. Mae'r swydd yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus
ddatblygu arferion arloesol mewn addysgu a dysgu.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â 'Thîm Rhosnesni' wrth i'r ysgol wella a thyfu'n gyflym. Mae Ysgol Rhosnesni wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol, cydweithio a lles staff.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais, cysylltwch â
Mrs Sally Williams ar 01978 340840.

I wneud cais: Llenwch a chyflwyno'r ffurflen gais ar-lein ar ein tudalen TES, neu lenwi'r
ffurflen gais sydd ar gael ar dudalen swyddi gwag Cyngor Wrecsam
a'i dychwelyd i'r ysgol yn uniongyrchol.

Gellir cysylltu ag ymgeiswyr cyn y dyddiad cau i drafod eu cais ymhellach.
Sylwer: Nid ydym yn derbyn ceisiadau trwy CV na gan Asiantaethau.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Nodwch fod pob swydd ysgol yn amodol ar wiriad manwl gan y GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.