MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Gradd 6 (£28,142) gyda Lwfans Dosbarth Arbennig (£1539) x 77.15%
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (Ariannu Canolog) Cwmclydach Primary School
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Gradd 6 (£28,142) gyda Lwfans Dosbarth Arbennig (£1539) x 77.15%
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (Ariannu Canolog) Cwmclydach Primary SchoolDisgrifiad Swydd
Addysg a Dysgu Gydol Oes RhCT
Ysgol Gynradd Cwmclydach
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu
Dosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen - Anogaeth
Graddfa Gyflog: Gradd 6 (£28,142) gyda Lwfans Dosbarth Arbennig (£1539) x 77.15%
Oriau: 32.5 awr yr wythnos, tymor yr ysgol yn unig
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
Rydyn ni'n dymuno cyflogi Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu cyn gynted â phosibl ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo athro/athrawes y dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol.
Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 18 Medi 2025
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.