MANYLION
  • Lleoliad: TBC,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Athrawon T ac A + SNA 1af
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Arbenigol - ADY

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Athrawon T ac A + SNA 1af

Athro Arbenigol - ADY
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:

Gweithio fel rhan o dîm i ddarparu cymorth a chyngor i ysgolion mewn perthynas ag ADY

Ymgymryd ag achosion unigol yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwyr Cynhwysiant er mwyn sicrhau bod anghenion disgyblion yn cael eu diwallu

Darparu hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i ysgolion mewn perthynas â'r Ddeddf ADY

Amdanoch chi:

Bydd gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad llwyddiannus, ôl-gymhwyso mewn addysgu a phrofiad o weithio'n uniongyrchol gyda disgyblion sydd ag ystod o ADY. Byddwch yn frwdfrydig dros y gwasanaeth gydag awydd cryf i sicrhau gwell canlyniadau.

Eich dyletswyddau:

Cefnogi ysgolion i osod disgwyliadau uchel sy'n ysbrydoli, ysgogi a herio disgyblion.

Cynghori ysgolion ar ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau), mapiau darpariaeth a chynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Gweithio gydag ysgolion a rhieni/gofalwyr i ddatrys materion a phryderon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Heidi Piercy - Rheolwr Cynhwysiant Heidi.piercy@powys.gov.uk

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manylach, mae'r swydd hon yn cael ei hystyried yn weithgaredd rheoledig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012 a bydd yn amodol ar wiriad i'r rhestr o'r bobl hynny sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant.